Stotles logo
Closed

Gwasanaethau Ecolegol Cynllunio / Planning Ecological Services

Published

Description

[ENGLISH TEXT FOLLOWS BELOW] GWAHODDIAD I GYFLWYNO DYFYNBRIS AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU RHEOLI DATBLYGU AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI 21 IONAWR 2022 1. Dyma wahoddiad i roi dyfynbris am wasanaethau i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth Prif Swyddog Cynllunio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae cyfnod mamolaeth y swyddog yn cychwyn yn ffurfiol ddiwedd Chwefror a rhagwelir y bydd unrhyw gontractwr penodedig yn gallu dechrau ychydig wythnosau cyn y dyddiad hwn er mwyn cael ‘cyfnod trosglwyddo’ ffurfiol gyda’r swyddog a fydd yn mynd ar famolaeth. 2. Bwriedir i’r cytundeb bara am gyfnod cyfan y cyfnod mamolaeth – a all fod tua 9 mis. Fodd bynnag, bydd yn cael ei gomisiynu ar sail cost sefydlog – gyda chost gychwynnol y contract yn dod i £25K. Mae'r cleient yn cadw'r hawl i derfynu'r contract ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod hwnnw, gan gynnwys cyn defnyddio cyfanswm cost y gyllideb. 3. Bydd y contract yn ymwneud yn bennaf â gwaith rheoli datblygu h.y. penderfynu ar geisiadau cynllunio (adroddiadau dirprwyedig ac adroddiadau pwyllgor yn ogystal ag ymholiadau cyn cyflwyno cais ac apeliadau cynllunio), er y gall gynnwys materion cynllunio eraill o bryd i'w gilydd - megis ymholiadau sydd a wnelo gorfodaeth neu bolisi. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith mewn ardal ddaearyddol benodol o’r Parc Cenedlaethol – sef rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Eryri. 4. Oherwydd natur y gwaith rheoli datblygu, ni ellir rhagfynegi union natur na maint y llwyth achosion yn union – a bydd yn amrywio o wythnos i wythnos. Fodd bynnag, ar gyfartaledd, rhagwelir y bydd y contractwr yn delio â thua 15 o geisiadau cynllunio y mis (er y gallai hyn amrywio). 5. Bydd technegwyr yr Awdurdod yn ymgymryd â llawer o'r cymorth gweinyddol, gan gynnwys dilysu ceisiadau cynllunio. Bydd yr holl adroddiadau a gynhyrchir yn cael eu gwirio a'u cymeradwyo naill ai gan y Prif Swyddog Cynllunio Dros Dro neu'r Rheolwr Cynllunio. Bydd y technegwyr yn gallu dechrau ar y gwaith dilysu ac ymgynghori cychwynnol, a bydd ffeil electronig o ddogfennau allweddol yn cael ei darparu ar gyfer pob achos. Bydd hyn yn cynnwys crynodeb o'r hanes cynllunio. Pe bai'r contractwr yn ystyried archwilio hanes cynllunio ymhellach, gall holi ynghylch y rhain yn swyddfeydd yr Awdurdod neu ofyn i'r technegydd e-bostio dogfennau penodol yn uniongyrchol. Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori statudol yn mynd rhagddo, bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu e-bostio at y contractwr. 6. Rydym yn rhagweld bydd angen ymweliadau safle i’r mwyafrif o ceisiadau – ond mae rywfaint o hyblygrwydd yma os mae’n bosib penderfynu’r cais wrth ddefnyddio cynlluniau, mapiau, lluniau, Google Street View, a bosib ymwybyddiaeth lleol swuddogion cynllunio eraill (nid yw’n bosib wrth gwrs cadarnhau bydd mynediad at swyddogion o hyd chwaith). 7. Disgwylir i'r contractwr benderfynu ar y ceisiadau o fewn y cyfnod penderfynu statudol, oni bai y cytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gyda'r ymgeisydd. 8. I grynhoi, bydd disgwyl yn fras i’r contractwr gyflawni’r tasgau canlynol: a. Derbyn llwyth achosion ceisiadau yn electronig a gwneud unrhyw ymweliadau safle angenrheidiol. Efallai na fydd angen ymweld ag achos bob tro – a mater i'r contractwr fydd penderfynu a fydd penderfyniad o bell yn ddigon ar gyfer rhai achosion; b. Sicrhau ei fod ef / hi yn fodlon gyda'r rhestr ymgyngoreion yn dilyn dilysu – a gofyn am ymgynghoriad pellach yn ôl yr angen. c. Gwiriadau AEA / ARhC (bydd yr ecolegydd yn cynghori yn ystod y cyfnod ymgynghori) ch. Protocol rhywogaethau a warchodir (bydd yn cael ei wneud ar y cam dilysu) d. Mater i'r contractwr fydd a yw'n dymuno gwneud cais am unrhyw ddiwygiadau neu wybodaeth ychwanegol – naill ai ar ddechrau'r cyfnod prosesu cais neu ar ddiwedd yr ymgynghoriad 3 wythnos ; dd. Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd y contractwr yn drafftio'r adroddiad dirprwyedig neu'r pwyllgor cynllunio ynghyd â'r argymhelliad ac unrhyw amodau cynllunio angenrheidiol. e. Bydd y rhain yn cael eu hanfon at y Prif Swyddog Cy

Timeline

Publish date

2 years ago

Close date

2 years ago

Buyer information

Snowdonia National Park Authority/Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Contact:
Iwan Jones
Email:
parc@eryri.llyw.cymru

Explore contracts and tenders relating to Snowdonia National Park Authority/Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Go to buyer profile
To save this opportunity, sign up to Stotles for free.
Save in app
  • Looking glass on top of a file iconTender tracking

    Access a feed of government opportunities tailored to you, in one view. Receive email alerts and integrate with your CRM to stay up-to-date.

  • ID card iconProactive prospecting

    Get ahead of competitors by reaching out to key decision-makers within buying organisations directly.

  • Open folder icon360° account briefings

    Create in-depth briefings on buyer organisations based on their historical & upcoming procurement activity.

  • Teamwork iconCollaboration tools

    Streamline sales workflows with team collaboration and communication features, and integrate with your favourite sales tools.

Stop chasing tenders, start getting ahead.

Create your free feed

Explore similar tenders and contracts

Browse open tenders, recent contract awards and upcoming contract expiries that match similar CPV codes.

Explore other contracts published by Snowdonia National Park Authority/Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Explore more open tenders, recent contract awards and upcoming contract expiries published by Snowdonia National Park Authority/Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Explore more suppliers to Snowdonia National Park Authority/Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Sign up